Yr hyperbola

Defnyddiwch y llithrwr i amrywio gwerthoedd a a e ac ymchwiliwch i effaith yr hyperbola. Caiff y cyfesurynnau parametrig y pwynt P eu rhoi yn y gornel chwith gwaelod. Symudwch y pwynt P gan ddefnyddio’r llithrwr i newid gwerth y paramedr θ. Edrychwch ar y berthynas rhwng y gymhareb PS/PM a’r echreiddiad. Edrychwch ar y berthynas rhwng yr hafaliadau a’r asymptotau a gwerthoedd a a b yn hafaliad yr hyperbola x²/a² - y²/b² = 1.