Yr hyperbola petryal

Mae gan hyperbola petryal asymptotau ar ongl sgwâr. Ei echreiddiad yw ail isradd 2. Caiff ei lunio fel arfer fel y dangosir yma, gyda’r echelinau cyfesurynnol fel yr asymptotau. Defnyddiwch y llithrwr i amrywio gwerthoedd c ac ymchwiliwch i effaith yr hyperbola. Caiff y cyfesurynnau parametrig y pwynt P eu rhoi yn y gornel chwith gwaelod. Symudwch y pwynt P gan ddefnyddio’r llithrwr i newid gwerth y paramedr t. Edrychwch ar werth y gymhareb PS/PM wrth i’r pwynt P amrywio.